Ydy Duw yn galw arnoch i fod yn rhan o blannu eglwys mewn ardal anghenus? A yw'ch eglwys yn ystyried gwaith plannu? Hoffech chi fod yn rhan o'r antur? Os hynny, mae'n bryd i chi baratoi a meddwl o ddifrif am hyn.
Cymdeithas Bedyddwyr Gwent sy’n croesawu’r digwyddiad nesaf fore Sadwrn, 23 Mawrth 2019 yn Newbridge, Casnewydd. Trefnir digwyddiadau eraill hefyd yn 2019. Os hoffech gael y manylion ebostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..
Bydd y deunyddiau'n addas ar gyfer y rheiny sy'n plannu mewn sefyllfaoedd iaith Gymraeg neu Saesneg, ond bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Saesneg.
Aelodau tîm Cymrugyfan yn unig fydd yn cyflwyno’r tro hwn.
Dylai’r unigolion sy’n perthyn i eglwysi CBG gofrestru drwy’r Gymdeithas. Gwahoddir eraill i gofrestru gyda Cymrugyfan drwy ebostio This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..
Mae lleoedd ar y digwyddiadau hyn yn brin, felly gofynnwn i chi gofrestru os ydych o’r farn y byddwch yn cymryd rhan mewn plannu eglwysi yn y dyfodol rhagweladwy. Dylech drafod mynychu’r gynhadledd gydag arweinydd eich eglwys, ac fe hoffem gael geirda byr oddi wrth yr arweinydd hwnnw cyn eich bod yn mynychu’r cwrs.
Y cyflwynwyr ar y diwrnodau hyn fydd Steve Dyer, un o grŵp craidd Cymrugyfan, sydd wedi plannu eglwys ym mhentref Tre-Gŵyr ar Benrhyn Gŵyr, a Gary Smith, cyfarwyddwr Message Wales, sydd wedi plannu eglwys ym mhentref Gwenfô ym Mro Morgannwg. Yn ogystal, bydd cyfraniadau eraill gan aelodau eraill o dîm Cymrugyfan a phlanwyr eglwysi eraill, unai yn y cnawd neu ar fideo.
Bydd y digwyddiadau hyn yn para am ddiwrnod cyfan. Does dim tâl i fynychu’r digwyddiad, heblaw am ffi archebu o £5. Darperir cinio a lluniaeth yn ystod y dydd, a bydd adnoddau pellach i’r mynychwyr gymryd adref ar y diwedd.
Gellir cofrestru trwy anfon e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..