Cynllun Derwen
Mae Cynllun Derwen bwriad yw datblygu arweinwyr a fydd yn flaenllaw mewn cenhadaeth arloesol i'r ardaloedd yng Nghymru ble mae tystiolaeth fyw i'r efengyl wedi edwino neu ddiflannu. Bydd yn siapio mynegiant cyfoes o Gristnogaeth yn ein gwlad. Nid yw’n gynllun academaidd, yn hytrach y bwriad yw datblygu sgiliau a chymeriad yr arweinydd. Bydd y cynllun yn arfogi'r myfyrwyr gyda profiadau y bydd rhagleni, mudiadau, a cyrsiau eraill yn adeiladu arnynt.
![]() |
Mae’r cynllun ar gyfer unrhyw un sydd a chalon dros rannu y newyddion da am Iesu mewn dull newydd ac arloesol yng Nghymru. Gall fod yn gam cyntaf tuag at genhadaeth newydd i rai, ac i eraill, yn gynllun fydd yn cefnogi eu datblygiad fel arweinwyr newydd. |
Bydd myfyriwr yn rhan o’r cynllun am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn bydd cyfleon i ddysgu, cymdeithasu, gweddïo a thyfu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol, ochr yn ochr â perthynas â mentor lleol a profiadau ar leoliad. Gallwch lawrlwytho’r pamffled yma.
Mae Cynllun Derwen wedi bod ar waith ers Medi 2020 gyda’n carfan gyntaf o arloeswyr. Gwnaethom gyfweld rhai o’r arloeswyr a gallwch weld eu hanesion yma.
![]() |
|
![]() |
|
![]() |