Am newyddion...






Y Parchedig Geraint Morse yw’r Cyfrannwr Gwadd

Addawodd Iesu y byddai’n adeiladu ei eglwys a dyma’n gweddi feunyddiol ni, “Gwna fe, Arglwydd yn ôl d’addewid.”

Mae’n bwysig sylweddoli wrth geisio buddsoddi yn nheyrnas nefoedd mai Iesu ei hun sy’n adeiladu ei eglwys ble bynnag y mae’n dewis, yn ei ffyrdd ef, yn ei amser ef ac er ei ogoniant ef yn unig.  Wrth gwrs, byddai’n braf gweld tyfiant mewn rhifau yn y capeli Cymraeg eu hiaith yng nghefn gwlad Cymru.  Ond rhaid ceisio cadw’r darlun mawr mewn golwg wrth fuddsoddi yn nheyrnas nefoedd, gyda’n golygon ar Iesu a thragwyddoldeb.

Mae nifer o Gristnogion ymroddedig a thalentog wedi gadael eglwysi bach, Cymraeg eu hiaith oherwydd rhesymau addysg a gwaith.  Mae nifer ohonynt yn chwyddo cynulleidfaoedd yn nhrefi a dinasoedd Cymru.  Byddai’n fendith gweld yr eglwysi sydd wedi elwa o’r mewnlifiad yma o fyfyrwyr, pobl ifanc a theuluoedd ifanc yn ystyried eu cyfrifoldeb a’u dyled i’r eglwysi sydd wedi cael y fraint o dan fendith Duw i feithrin y bobl hyn yn y lle cyntaf.

Beth all eglwysi mawr Saesneg wneud i helpu eglwysi Cymraeg eu hiaith mewn mannau gwledig yng Nghymru, yng Ngogledd Sir Benfro fel enghraifft?

  • Mabwysiadu ardal ac ymrwymo i weddïo dros y dystiolaeth Gristnogol yn yr ardal honno.
  • Trefnu taith gerdded gweddi am dri diwrnod ar hyd arfordir Sir Benfro.
  • Cadw mewn cysylltiad ag eglwys neu arweinwyr allweddol lleol er mwyn gweddïo am anghenion penodol.
  • Rhyddhau adnoddau i gefnogi digwyddiadau cenhadol, e.e. Clwb Haf, neu noson ymestyn allan.
  • Ystyried rhyddhau rhai o’u haelodau i adleoli i’r ardal i galonogi’r credinwyr sydd yno eisoes.

Ond rhaid i’r Cristnogion hyn ddod yn barod i wasanaethu, i garu, i adael diogelwch a swcr eglwysi aeddfed mawr i wynebu her cynulleidfaoedd bach.  “Big isn’t always beautiful.” “Gall eglwysi bach gwledig a Chymraeg eu hiaith fod yn brydferth hefyd.”  Beth am ryddhau’r aelodau sy’n barod i fentro mewn ffydd heb wybod sut y bydd Duw yn eu defnyddio mewn mannau gwledig a Chymreig? Beth am ryddhau’r milwyr 'arian' er mwyn sicr nad ydynt yn ymladd yn y barics ond yn ymuno yn y frwydr ar ffrynt yr ardaloedd gwledig Cymreig?

Ychwanegu sylw...          

Diolch yn fawr iawn Geraint. Dw i'n meddwl bod dyma yn bwysig iawn!

Cymrugyfan

BP 4287
CAERDYDD
CF14 8GS
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
Elusen gofrestredig
Rhybudd Preifatrwydd