Ble yn y byd mae Cymru?
Deall a chymhwyso'n hunain i'r man yr ydym ... er mwyn cyrraedd y rheiny o'n cwmpas
Mae Cymrugyfan yn cynnig cwrs dwy sesiwn awr o hyd o'r enw 'Ble ar y ddaear mae Cymru?' sy'n helpu i gyd-destunoli'r eglwys yng ngoleuni:
• Diwylliant Cymreig
• Hanes Cymru
• Herion cyfoes
Bydd rhai strategaethau effeithiol yn cael eu hawgrymu.
Rydym ar gael i redeg y cwrs hwn ar gyfer eglwysi a grwpiau o eglwysi ledled Cymru. Os hoffech i ni drefnu digwyddiad yn eich ardal os gwelch yn dda cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. .
Bydd pob sesiwn yn cychwyn trwy edrych ar sylfeini Beiblaidd, a rhoi cyfle i ryngweithiad a deialog. Byddant yn cael eu harwain gan aelodau o Cymrugyfan, sydd yn gweithio mewn sefyllfaoedd gwahanol ledled y genedl.
Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer
• unigolion
• timoedd arwain eglwysi
• rhwydweithiau o arweinwyr
• arweinwyr sy'n symud i mewn i Gymru
• colegau a chynlluniau hyfforddi
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnig yn Saesneg.
Beth sydd yn mor arbennig am Gymru?
Beth yw ein hanes, a sut mae hynny'n ein heffeithio ni heddiw?
Beth sy'n digwydd mewn rhannau gwahanol o Gymru?
Sut allwn ni addasu i'n rhan ni o Gymru?
Sut allwn ni gyrraedd ein hardal â'r newyddion da?
Mae dolenni at wybodaeth ddefnyddiol ynglyn â Chymru wedi’i rhestru ar ein tudalen Am Gymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. .