Am newyddion...






Gofynnodd T H Parry Willams yn bryfoclyd 'Beth yw’r ots gennyf fi am Gymru?' yn ei gerdd Hon.  A yn ei flaen i son am y profiad melys-chwerw o fod yn Gymro, fel y’i bod am dianc.  Mae’r clo yn wych:

Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.

Peth naturiol yw caru’r gwlad lle’n ganed a’n magwyd, a gellir ychwanegu, i garu’r gwlad lle y dewisom byw.  Ond beth yw’r ots gennyf fi am Gymry, y Pobl? 

Ar anterth y mudiad cenhadol canrif yn ôl, tase’r eglwysi yng Nghymru wedi clywed am bobl tebyg i’r Cymry heddiw, heb Dduw heb obaith, mi fydde’r alwad i anfon ac ymateb yn siwr o ddod.

Fe glywn digon am garu Duw a’n holl galon, meddwl, enaid a nerth yn ein heglwysi.  Ond a allwn o ddifrif ddweud ein bod yn ‘caru’n cymydog fel ni’n hunain’ os ydym yn aros o fewn y muriau rheini ac yn cadw’r Newyddion Da i ni’n hunain?  A dweud y gwir, nid ydym yn llwyddo i gadw’r gorchymyn i garu Duw os syrthiwn yn brin yn hyn.

Gobeithio y caf maddeuant am addasu clasur ond:

A glywn ni grafangau Cymry’n dirdynnu ein bron?
Duw a’n gwaredo, ni allwn dianc rhag rhain.

 

Ychwanegu sylw...          

Cymrugyfan

BP 4287
CAERDYDD
CF14 8GS
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
Elusen gofrestredig
Rhybudd Preifatrwydd