Gwybodaeth
Beth yw Cymrugyfan?
Rhwydwaith o blannu a chryfhau eglwysi yw Cymrugyfan, sydd yn cydweithio gyda grwpiau ac enwadau efengylaidd. Mae Cymrugyfan yn ceisio hyrwyddo a hybu lluosiad eglwysi efengylaidd ar draws ein cenedl ac annog eglwysi sy’n bodoli i blannu eglwysi mewn modd mwy effeithiol ac arloesi wrth efengylu yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.
Mae gan Cymrugyfan feddwl mawr o’r eglwys leol fel prif gyfrwng Duw er ymestyn ei waith ar y Ddaear. Credwn mai presenoldeb eglwys leol yw’r cyd-destun mwyaf effeithiol ar gyfer cenhadaeth a gwneud disgyblion.
Sefydlwyd Cymrugyfan gan David Ollerton. Gallwch ddarllen teyrnged i David yn Saesneg yma.
Pam Cymrugyfan?
Mae Cymru yn cael argyfwng presenoldeb yr eglwys. Ar hyn o bryd mae llawer o drefi, a channoedd o bentrefi heb un eglwys Efengylaidd. Ar ben hyn mae yna lawer o gymunedau a phobl Cymraeg eu hiaith sydd heb fynediad i’r eglwys nac i neges Iesu Grist yn eu hiaith eu hun.
Po fwyaf o eglwysi sydd yng Nghymru, a po gryfed y maent, y mwyaf mae’r cyfle sydd gan unigolion i glywed am Iesu Grist, dod i ffydd ynddo fe a darganfod gras achubol Duw. Cred Cymrugyfan fod plannu a chryfhau’r eglwysi Cymraeg a Saesneg eu hiaith ill ddau ar hyd a lled Cymru yn hanfodol bwysig.
Sut mae Cymrugyfan yn gweithio
Mae gan Cymrugyfan weithgor o arweinwyr a gweithredwyr plannu eglwysi o ar draws y sbectrwm Efengylaidd. Mae’r tîm yma’n cydweithio er mwyn arwain a chydlynu gwaith Cymrugyfan.
Mae Cymrugyfan yn ceisio canfod ardaloedd allweddol a blaenoriaethau ar gyfer plannu a chryfhau eglwysi.
Ceisia Cymrugyfan hwyluso ac annog cydweithio ymysg eglwysi, gweinidogaethau a rhwydweithiau ym maes plannu a chryfhau eglwysi o fewn yr ardaloedd blaenoriaeth a chanfyddid.
Mae aelodau tîm Cymrugyfan wrthi’n gwasanaethu arweinwyr a’u heglwysi lleol wrth ddod ochr yn ochr, hyfforddi, cynghori, cryfhau ac annog.
Mae Cymrugyfan yn cynnal cynadleddau a digwyddiadau i ysbrydoli a chyfarparu eglwysi tu fewn i Gymru tuag at blannu a chryfhau eglwysi.
Mae Cymrugyfan wrthi’n ceisio canfod a datblygu planwyr eglwysi a thimoedd ar gyfer y gwaith o blannu eglwysi.